Dylai eich cartref fod yn fan diogel i chi; noddfa fewnol lle gallwch ddianc o brysurdeb y byd y tu allan. Dyna pam y mae dod o hyd i ateb yswiriant sy’n cwmpasu holl anghenion eich teulu ac yn cynnig tawelwch meddwl llwyr i chi, mor bwysig.
Mae nifer o opsiynau yswiriant ar gael i berchenogion tai. Gallai un polisi yswiriant cartref fod yn addas ar gyfer un teulu neu unigolyn, ac yn gwbl anaddas i rywun arall. Dyna pam ein bod am roi dealltwriaeth dda i chi o sut y gall polisi yswiriant cartref pwrpasol weithio i ddod o hyd i ateb sy’n iawn i chi a’ch eiddo.
Gwarchodaeth Lladrad
Treuliau cyfreithiol (dewisol)
Adeiladau
Diford LLifogydd
Cynnwys
Eiddo Allan o’r Cartref
Mae ein polisiau yn rhoi gwarchodaeth “Newydd am Hen” sydd yn golygu eich bod yn cael eitem newydd yn dilyn difrod na ellir ei drwsio.
Mae opsiynnau i ychwanegu gwarchodaeth difrod damweiniol a eiddo allan o’r ty, hyn i gyd i sicrhau gwarchodaeth cynhwsfawr i’ch eiddo.
Gall ein tȋm profiadol eich helpu i ddewis y math cywir o warchodaeth ar gyfer eich anghenion unigol a sicrhau bod y premiwm rydych yn ei dalu o fewn eich modd. Byddwn yn sicrhau eich bod yn deall yn llawn y telerau a’r amodau ac unrhyw waharddiadau. Os bydd eich cartref a’i gynnwys yn mynd y tu hwnt i’r hyn y gall yswiriant cartref safonol ei gynnig, gallwn edrych ar gynhyrchion sy’n darparu ar gyfer cartrefi ac eiddo o werth uwch.