Mae cymaint o gydrannau i ffilmio a chynhyrchu cyfryngau, technolegol a dynol sydd angen dod at ei gilydd mewn cytgord cyflawn am y canlyniad gorau. Os mai dim ond un o’r elfennau hyn sydd allan o sync, gall daflu’r prosiect cyfan a gall cost ariannol hyn fod yn sylweddol.
Mae cwmnïau cynhyrchu cyfryngau yn wynebu coctel unigryw o risgiau o ran yswiriant, a dyna pam mae’n gwneud synnwyr i ni yn Tarian ddarparu polisi penodol iawn i gwrdd â’ch anghenion.
Indemniad Cynhyrchwyr Masnachol
Ateblrwydd I’r Cyhoedd
Gwarchodaeth Byd Eang byd-eang
Offer Technegol
Atebolrwydd Fel Cyflogwr
Offer Wedi Cael Ei Logi
Lladrad
Mae camerâu, goleuadau, generaduron, meddalwedd golygu a chraeniau i gyd yn enghreifftiau o rai o’r offer hanfodol sydd eu hangen pan ddaw i gynhyrchu ffilmiau. Gall y cyfarpar hwn gostio llawer o arian ac mae cymaint o gwmnïau ffilm yn llogi hwn. Oherwydd gwerth uchel yr offer hwn, mae risg uchel o ladrata. Mae hefyd mewn perygl o chwalu neu ddifrodi ac mae’n gallu achosi risg o anaf, er enghraifft pe bai rhywun yn baglu dros wifren neu’n cynnal llosg o ganlyniad i’r bylbiau golau Tungsten sy’n gallu cyrraedd tymereddau uchel.
Gall prosiectau yn aml redeg i derfynau amser tynn a gall pris rhedeg drosodd fod yn uchel. Gall oriau gwaith hir yn aml gymryd ei doll ar y cast a’r criw, a all fod yn methu gweithio oherwydd salwch. Os oes salwch, mae angen staff wrth gefn yn aml er mwyn sicrhau y gall y cynhyrchu gadw at yr amserlen. Pan na ellir dod o hyd i ddirprwyon munud olaf, weithiau rhaid rhoi’r cynhyrchiad ar gadw.
Mae ein profiad o drefnu polisiau yswiriant cyfryngau yn golygu ein bod yn gwybod y risgiau y mae’n rhaid edrych amdanynt; y pwyntiau i’w cofio pan fyddwch ar leoliad dramor, beth i’w wneud pan fydd safle arddangos dan ddŵr, neu pan fydd rhywun yn torri braich hanner ffordd drwy’r ffilmio.