Darganfod Yswiriant
Gyda dros 21 o flynyddoedd o brofiad o weithio gyda amrywiaeth o fusnesau, mae modd i ni yn Tarian nodi’r risgiau unigryw sy’n berthnasol i wahanol sectorau, yn ogystal â sefydliadau unigol, er mwyn creu polisi Yswiriant Busnes sy’n cynnig y diogelwch cywir.
Efallai bod gofyn i sefydliadau sy’n delio gyda’r cyhoedd megis theatrau, safleoedd hamdden a chlybiau chwaraeon ddelio gyda mwy o gyfleoedd atebolrwydd cyhoeddus nag argraffwyr er enghraifft, a byddai gwestai, tafarndai a bwytai yn cael eu heffeithio’n fawr pe byddent yn colli eu trwydded neu’n cael tân yn eu cegin.
Mae’r mathau o yswiriant y mae eu hangen ar eich busnes yn amrywio’n fawr ac yn dibynnu eich amgylchiadau unigryw, a byddwn yn gweithio gyda chi i nodi’r anghenion hyn.