Hyd yn oed cyn eich bod wedi stocio’ch silffoedd, wedi cyflogi eich staff ac agor eich drysau i’r cyhoedd maen bwysig eich bod wedi ystyried yswiriant. Mae yswiriant siop yn ystyriaeth hanfodol i unrhyw berchennog siop gan y gall helpu i atal colled ariannol sylweddol petai damwain neu ddigwyddiad yn digwydd.
Byddwn yn gyntaf yn casglu eich manylion, sut rydych chi’n gweithredu a beth rydych chi’n ei werthu cyn adeiladu polisi yswiriant siop sy’n iawn i chi. Byddwn yn gweithio gyda chi i ddod o hyd i ateb sy’n eich galluogi i werthu’n hyderus, gan wybod bod gennych becyn sy’n cynnig popeth sydd ei angen arnoch am bris cystadleuol.
Atebolrwydd I’r Cyhoedd
Cynnwys
Ymyrraeth Busnes
Atebolrwydd Fel Cyflogwr
Treuliau Cyfreithiol
Adeilad
Cyfrifiaduron
Stoc
Nwyddau Yn Cael eu Cludo
Os ceir tan gall y gorchudd adeiladau yswirio’ch costau ailadeiladu. Yn yr un modd, mae Atebolrwydd i’r Cyhoedd, cynnyrch a chyflogwr yn hanfodol ar gyfer unrhyw fusnes sy’n gwerthu nwyddau, sy’n gweithio’n agos gydag aelodau o’r cyhoedd ac sydd â gweithlu o unrhyw faint. Gall cynnydd tymhorol ar gyfer terfynau stoc gyfrif am gyfnodau prysurach, sy’n gallu amrywio yn dibynnu ar wasanaeth eich siop a gall amnewid gwydr brys sicrhau bod ffenestri a drysau yn cael eu gosod yn gyflym.
Rydym am eich helpu i sicrhau bod y busnes manwerthu yr ydych wedi gweithio’n galed i’w adeiladu yn cael ei ddiogelu gan y polisi yswiriant siop cywir. P’un a ydych chi’n gofalu am siop adran neu gadwyn, bwtîc ar y stryd fawr neu siop hwylustod. Siaradwch â ni am eich busnes, fel y gallwn chwilio drwy’r termau gorau sydd ar gael gan banel o yswirwyr y DU.